Ffair Nadolig 2015
Roedd gennym ni ym Mlwyddyn 6 stondin yn y Ffair Nadolig. Buom yn gwerthu coed ac addurniadau Nadolig. Yn ystod yr wythnos cyn y ffair, buom yn brysur yn cynllunio, creu ac addurno’r addurniadau. Diolch i bawb am eich cefnogaeth. Roedd hi’n noson lwyddiannus i ni.